Adnodd Myfyrdodau Wythnos Cymorth Cristnogol
Mae’r daith ddysgu hon wedi cael ei hysgrifennu i ddarparu syniadau ar gyfer gwasanaeth, addoli ar y cyd neu i gefnogi datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol. Mae’r deunydd wedi ei rannu’n 5 adran fel y gellir ei ddefnyddio yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol, gyda phwyslais gwahanol i fyfyrio arno bob dydd. Gellir defnyddio’r syniadau’n hyblyg, dewis o’u plith a’u haddasu ar gyfer eich cyd-destun. Gellir defnyddio’r daith ddysgu gyfan hon hefyd ar adeg arall yn ystod y flwyddyn academaidd i gyd-fynd yn fwyaf priodol â’ch cynllun gwasanaethau/cwricwlwm.